About Us

Ynglŷn â’r Ganolfan Bwnc

Pwrpas y Ganolfan Bwnc ar gyfer Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd (DGDdA) yw hyrwyddo a chefnogi dysgu ac addysgu o ansawdd uchel yn nisgyblaethau daearyddiaeth, gwyddorau’r ddaear a’r amgylchedd mewn addysg uwch yn y DU (gan gynnwys addysg uwch mewn addysg bellach). Mae’r Ganolfan Bwnc DGDdA, sydd wedi’i seilio ym Mhrifysgol Plymouth, yn ganolfan genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth am ddysgu ac addysgu yn y tair disgyblaeth. Mae’r rhoi llais i gymunedau’r disgyblaethau ac yn cyfrannu at ymgynghoriadau llywodraeth a datblygiadau polisi. Mae maes gorchwyl y Ganolfan yn cynnwys yr holl DU ac adlewyrchir hyn yn lleoliadau ei gweithgareddau a’i digwyddiadau.

Mae natur y Ganolfan Bwnc DGDdA yn adlewyrchu natur ei disgyblaethau cyfansoddol. Mae ganddi ddull dysgu gweithredol/profiadol trwy brofiad yn ei gweithgareddau sy’n cynnwys:

Mae gan gydweithwyr o gymunedau’r disgyblaethau (gan gynnwys academyddion, staff cefnogi a myfyrwyr) gyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Ganolfan ar amrywiaeth o lefelau. Mae ein dull o weithio’n gynhwysol a datblygiadol yn ein holl waith. Mae’r Ganolfan Bwnc yn fwy na dim ond ei thîm craidd. Mae’n rhwydwaith sy’n cynnwys pawb sy’n dysgu, addysgu neu’n cefnogi dysgu yn nisgyblaethau DGDdA; rydym yn dysgu o’n profiadau a phrofiadau eraill ac ymdrechwn i gadw i fyny â’r holl fentrau allweddol a newidiadau mewn addysg uwch yn y DU sy’n berthnasol i’n disgyblaethau. Nod ein holl weithgareddau yw cefnogi datblygiad proffesiynol staff a gwella dysgu i fyfyrwyr daearyddiaeth, gwyddorau’r ddaear a’r amgylchedd mewn addysg uwch yn y DU.

[ Top of Page ]

The Higher Education Academy Subject Centre for Geography, Earth and Environmental Sciences,
Buckland House, University of Plymouth, Drake Circus, Plymouth, PL4 8AA
Email: info@gees.ac.uk Tel: ++44 1752 584529 Fax: ++44 1752 584880